Cymerwch ran yn ein holiadur lluniau
Holiadur rhyngweithiol gyda lluniau i’n helpu i lunio rhaglenni sy’n seiliedig ar natur yn Ne Cymru.
Dechrau’r holiadur

Hoffem glywed amdanoch chi, beth rydych chi’n ei fwynhau a’r rhaglenni yr hoffech i ni eu cynnig yn eich cymuned.
Mae ein holiaduron lluniau ar-lein yn ffordd syml a diddorol o rannu eich syniadau. Agorwch holiadur a dewiswch y lluniau sy’n adlewyrchu eich diddordebau a’ch dewisiadau. Mae lle hefyd i ddweud mwy wrthym os hoffech chi.
Mae eich atebion yn ein helpu i benderfynu beth i’w ddatblygu, ar gyfer pwy, ble mae’n digwydd a beth fyddai’n ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan.
Dewiswch holiadur isod i rannu eich syniadau.
Rydyn ni’n adolygu ymatebion tra bo holiadur ar agor ac eto wrth gynllunio neu wella rhaglenni.
Rydyn ni’n eu hystyried ochr yn ochr â syniadau a gasglwyd drwy gyd-gynhyrchu wyneb yn wyneb, sgyrsiau ag aelodau’r gymuned a chyfraniadau gan sefydliadau a gwasanaethau partner.
Rydyn ni’n chwilio am themâu, blaenoriaethau a rhwystrau sy’n codi dro ar ôl tro. Mae’r rhain yn ein helpu i benderfynu beth i’w ddatblygu, ble gallai fod angen rhaglenni a sut i’w gwneud yn fwy hygyrch.
Efallai na allwn ddefnyddio pob syniad, ond mae pob cyfraniad yn ein helpu i gael darlun cliriach o’r hyn mae cymunedau ei eisiau.
Yn y gorffennol, rydyn ni wedi defnyddio gwahanol fathau o holiaduron. Roeddem am i’r Cyd-Lab Cymunedol gynnig ffordd fwy hygyrch a phleserus o rannu syniadau ar-lein.
Mae eich atebion yn ein helpu i ddeall beth mae cymunedau ei eisiau.
Os gofynnwn ble rydych chi’n byw, rhowch ran gyntaf eich cod post yn unig. Er enghraifft, SA1.
Peidiwch â chynnwys eich enw nac enw rhywun arall yn y blychau lle gallwch ysgrifennu mwy.
Os byddwch yn ymuno â’n rhestr e-bost, rydyn ni’n cadw eich cyfeiriad e-bost ar wahân i’ch atebion i’r holiadur.
Holiadur rhyngweithiol gyda lluniau i’n helpu i lunio rhaglenni sy’n seiliedig ar natur yn Ne Cymru.
Dechrau’r holiadurYdych chi’n gweithio i sefydliad sy’n cefnogi cymunedau? Hoffem glywed am eich gwaith ac archwilio sut y gallem gysylltu.
Dywedwch ychydig wrthym am eich sefydliad, gyda phwy rydych chi’n gweithio, ble rydych chi wedi’ch lleoli a beth sydd o ddiddordeb i chi.
Efallai bod gennych syniad i’w archwilio, eich bod am ddweud wrthym am anghenion yn eich cymuned, neu eich bod am gyflwyno eich gwaith a dod i adnabod ein gwaith ni.
Gadewch i ni drefnu sgwrs, ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Cysylltwch i drefnu cyfarfodRydyn ni’n sefydliad bach a bydd y Cyd-Lab yn parhau i dyfu. Os oes gennych syniadau am sut y gallem ei wneud yn fwy defnyddiol neu hygyrch, anfonwch e-bost at Hello@Happyheadwork.com.
An English version of the Co-Lab is available.
English / Saesneg